Ganwyd Antur Aelhaearn allan ô’r frwydr i gadw Ysgol Gynradd Llanaelhaearn yn agored. Ym mis Medi 1970 daeth Carl Clowes yn feddyg teulu ifanc i'r pentref. Ar yr un pryd roedd pentrefi cefn gwlad yn wynebu yr un problemau, sef lleihad yn nifer disgyblion mewn ysgolion cynradd am fod rhy ychydig o bobl ifanc yn ymgartrefu yn yr ardaloedd. Gallai dau reswm fod yn gyfrifol am hyn:-
- Dim sicrwydd o waith neu yrfa leol
- Cyflenwad annigonol o dai yn lleol

Y Meddyg Carl Clowes c. 1973
Wedi ystyried hyn sylweddolwyd mai brwydr fechan a enillwyd drwy gadw’r ysgol yn agored. Penderfynwyd sefydlu cymdeithas newydd i gymeryd yr awennau oddi ar y Gymdeithas Rieni ac i gario ei hymdrechion ymlaen. Enw’r gymdeithas newydd oedd Cymdeithas y Pentrefwyr. Ei hamcen oedd i gesio datrys y problemau a wynebai’r pentref ac yn fwy na dim ceisio sicrhau fod yr ardal yn fwy deiniadol i bobl ifanc aros a setlo yno. Rhai o’r problemau yn wynebu’r Gymdeithas newydd oedd tai Haf, rheolau’r Pwyllgor Cynllunio a derbyniad teledu. Ia, roedd y pethau y ceisiwyd eu gwneud fel Cymdeithas y Pentrefwyr yn amrywol iawn. Yn ystod y cyfnod yma buddugoliaeth arall oedd llwyddo i gael rheithor newydd i eglwys hynafol Sant Aelhaearn. Tua diwedd 1974 roedd rheithor y plwyf, y Parchedig William Roberts, yn ymddeol. Rhaid cyfaddef nad oedd llawer o obaith cael rheithor newydd gan fod y plwyf yn denau ei phoblogaeth, y plwyf yn anghysbell ac, yn bwysicaf efallai, bod prinder offeiriaid yn gyffredinol. Aeth rhai o’r plwyfolion i Fangor i roi yr achos gerbron yr Archddeacon ond ni ddeath hyn a llawer o obaith. Ysgrifennodd Carl Clowes at Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Gwilym O. Williams, gan bwysleisio’r angen am gydbwysedd mewn unrhyw ddatblygiadau yn y gymdeithas. Yna yn gwbl annisgwyl death y newydd fod curad ifanc o Gaernarfon â diddordeb mewn dod i’r plwyf i wasanaethu. Bu cryn bwysau arno i aros yng Nghaernarfon a dringo’r ysgol arferol yn lle dianc i blwyf diarffordd yng nghefn gwlad,(yr un pwysau proffesiynol a fu ar Carl Clowes cyn iddo ddod i bractis Llanaelhaearn). Er gwaethaf unrhyw bwysau daeth y Parchedig Idris Thomas, a oedd yn enedigol o Ddinorwig. yn offeriad i blwyf Llanaelhaearn yn Haf 1975. Yn wir cafwyd blas ar ei frwdfrydedd yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y plwyf pan drefnodd ŵyl bentref yn seiliedig ar yr Eisteddfod a oedd eisioes ar y gorwel. Mae hyn yn enghraifft ymarferol o bwysigrwydd cadw ein swyddi allweddol yn y gymdeithas wledig. Yn anffodus ar yr un adeg death y newydd fod Capel y Babell yn colli y Parchedig Goronwy Prys Owen gan ei fod wedi derbyn gofalaeth yng Nghaernarfon. Yna cafwyd newydd tristach fyth – nid oedd gan aelodau Capel y Babell y modd araianol i benodi olynydd iddo. Ym 1973 rhaid oedd rhoi sylw unwaith eto i broblemau’r ysgol. Dros cyfnod o flynyddoedd roedd ysgol Llanaelhaearn wedi wynebu nid yn unig leihad yn nifer ei disgyblion ond hefyd ddirywiad enbyd yng nghyflwr yr adeilad. Ni wariwyd nemor ddim ar baent ers blynyddoedd. Roedd Tŷ’r Ysgol nid yn unig yn wag ond mewn cyflwr drwg. Cyfyngwyd ar ddalgylch yr ysgol ers rhai blynyddoedd a gyrrwyd disgyblion yn byw ar ymylon y dalgylch i ysgolion cyfagos. Gohirwyd hysbysebu swydd y prifathro sawl tro yn y gorffennol a rhoddwyd swydd i un a oedd i ymddeol mewn byr amser. Hynny yw, roedd cynllwyn a chynlluniau ar y gweill i gau’r ysgol a hynny lawer blwyddyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad cyhoeddus. Ar ymddeoliad Miss Williams, y brifathrawes, yn 1974 ni fwriedid hysbysebu’r swydd. Mynnai Cymdeithas y Pentrefwyr y dylid ei hysbysebu. Rhoddwyd dau reswm iddynt pam na ellid gwneud hynny.
- Roedd Mehefin (fel ag yr oedd erbyn hynny) yn rhy hwyr i hysbysebu am rywun i ddechrau y mis Medi dilynol, ac roedd gan y Pwyllgor Addysg rywun mewn golwg ar gyfer y swydd, beth bynnag. – Awgrym Cymdeithas Rhieni i’r Pwyllgor Addysg oedd i lenwi’r swydd dros dro, hyd nes y gallai unrhyw ddarpar-brifathro ddechrau ar y gwaith.
- Ni allai ysgol fechan fel hon, a chyn lleied o ddisgyblion, ennyn digon o ddiddordeb ymhlith ymgeiswyr. Credai’r Gymdeithas Rieni yn wahanol a llwyddwyd i beri iddynt hysbysebu’r swydd, ar ôl cyn berswadio. Ymgeisiodd tri deg chwech am y swydd a phenodwyd John Roberts yn brifathro Ysgol Llanaelhaearn.
Poblogaeth y Plwyf
Rhwng 1961 a 1971 bu lleihad difrifol ym mhobolgaeth y plwyf.
- 1921 - 1,543
- 1931 - 1,654
- 1951 - 1,323
- 1961 - 1,242
- 1971 - 1,059
Mae dirywiad o’r fath yn effeithio ar wasanaethau’r ardal, fel cynnal siopau, y gwasanaeth bysiau, a’r orsedd heddlu leol, y meddyg, gweinyddes, rheithor a gweinidog. Dibynna’r rhain i gyd yn y pen draw ar boblogaeth, a rhaid cynnal honno ar lefel arbennig i’w cyfiawnhau. Yn gynnar yn 1973 teimla rhai o’r pentref nad oedd y Cymdeithas Pentrefwyr yn gwneud llawer o wahaniaeth i wir broblemau’r pentref,(er iddynt lythyru’n aml ar awdurdoau lleol) sef tai a gwaith. Pryd hynny nid oedd y Cyngor plwyf yn ystyried y pethau hyn yn rhan o’i cyfrifoldeb chwaith. Tua’r un adeg dechreuodd un neu ddau feddwl y buasent yn medru gwneud mwy i helpu eu hunain. Rhaid oedd cyd-weithio i ddatrys y problemau. Ond sut i ddechrau dyna oedd y cwestiwn. Ym 1970 bu i Carl Clowes ymweld â Beanntrai yng nghorllewin Corc yn Iwerddon, a chan bod ganddo ddiddordeb erioed yn niwylliant y wlad honno, treuliodd ddiwrnod ar Òilean Cleire, ynys tua wyth milltir o Faltimor yn ne orllewin Corc. Yno roedd yr ynyswyr yn ceisio gwneud rhywbeth i helpu eu hunain, fel gwerthu cynnyrch yr ynys. Efallai fod gwers yma i ardalwyr Llanaelhaearn. Ysgrifennodd Carl Clowes at Gael Linn yn Nulyn i holi pwy oedd yn gyfrifol am y datblygiad yno ac fe’i rhoddwyd mewn cysylltiad â’r Tad Tomas O’Murchu ar yr ynys. Ar ôl peth lythyru bu i ddau o Lanaelhaearn ymweld â’r ynys, sef Carl Clowes ac Emrys Williams, cyn Gŵyl y Pasg 1973. Buont yno am wythnos. Heb os cawsont eu hysbrydoli gan eu harosiad ar yr ynys, ac wedi gweld beth a allai cydweithredu ei wneud. Daethant yn ôl a chynnal Cyfarfod Cyhoeddus yn yr hen Neuadd Goffa ar ôl Gŵyl y Pasg 1973. Hysbyswyd y cyfarfod yn eang o gwmpas yr ardal. Amcan y cyfarfod oedd trafod y ffordd ymlaen i sicrhau dyfodol y pentref. Dewiswyd wyth o bobl i fod ar y Pwyllgor Llywio, a’u bryd ar ystyried beth oedd y posibiliadau yn Llanaelhaearn. Cadawyd pethau yn hollol benagored yn nwylo’r Pwyllgor. Aelodau’r Pwyllgor cyntaf yna oedd, dan gadairyddiaeth y parchedig Goronwy Prys Owen, Emrys Williams, William Arthur Evans, |Gwenno Mai Jones, Joan Jones, Nyrs Laura Toffarides, William Knights a’r Meddyg Carl Clowes. Cysylltiwyd yn gyntaf a Chymdeithas trefnu gwledig Cymru (y W. A. O. S. ) yn Aberystwyth, mudiad oedd yn rhoi cymorth i gymdeithasau cydweithreidiol amaethyddol yng Ngymru. Bu cyfarfod gyda swyddogion y Gymdeithas ynghŷd â chyfrifydd lleol i drafod syniadau y Pwyllgor Llywio ymhellach. Aeth naw mis heibio cyn dod o hyd i gyfansoddiad oedd yn dderbyniol i gyfraith gwlad. Felly, ar Ionawr 1af 1974 fe’u cofrestrwyd fel Cymdeithas Gyfeillgar Gyfyngedig yn unol a Deddf Cymdeithasau Diwydiannol a darbodus 1965. Ganwyd Antur Aelhaearn – Mudiad annibynnol ac amhlediol. Cofrestrwyd ei amcanion yn ffurfiol fel a ganlyn.
- I sicrhau a hyrwyddo bodolaeth Llanaelhaearn a’i gyffiniau fel cymuned, ac yn arbennig i atal a gwrthdroi y duedd tuag at ddiboblogi.
- I ddarparu cyflogaeth yn yr ardal, ac i’r diben hwn, i sefydlu neu ddenu unrhyw ddiwydiant, masnach neu fusnesion a oedd yn gydnaws â chymeriad yr ardal.
- I ddarparu tai, cyfleusterau neu wasanaethau, pan fyddai eu hangen, a fyddai o fudd i’r gymdeithas.
- Pan fyddai angen hwyluso’r ffordd i gyflawni’r uchod, i ddarparu unrhyw wasanaeth, masnach neu fusnes priodol.
Aethwyd i bob tŷ ar y Gofrestr Etholaeth Llanaelhaearn i ennyn cefnogaeth, a rhanwyd pamffledi. Erbyn diwedd Chwefror 1974 roedd wyth deg o aelodau a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn festri Capel y Babell gyda’r Br I. B. Griffith, Caernarfon wedi’i wahodd i fod yn siaradwr gwadd. Gan ddyfynnu’r adnod “ Yr oedd gan y bobl galon i weithio” rhoddodd I. B. gychwyn swyddogol i Antur Aelhaearn. Roedd yna cryn cwestiynu y noson honno, ond bellach, nid oedd troi yn ôl!
Aelodaeth yr Antur
Roedd unrhyw un ar Gofrestr Etholaeth Llanalhaern yn medru trwy dâl o £1 fod yn gyfrandalwr, gwaherddid rhoi mwy nac un cyfranddalid i un person. Mae gan pob cyfranddalwr yr hawl i bleidlesio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac unrhyw gyfarfod arall a gynhelir, ac wrth gwrs caiff pob unigolyn y cyfle i gynnig eu syniadau. Dewis y pentrefwyr oedd cyfyngu pob unigolyn i gyfranddaliad o £1. Mae’r achos felly yn hollol ddemocrataidd gan fod pawb, boed bensiynwr, yn bobl ddi-waith neu fyfyriwr tlawd, a llais cyfartal. Ni wneir elw o gwbwl ar y cyfranddaliadau ac ni ellir eu dychwelyd na’i trosglwyddo. Ar y pryd roedd 160 o’r pentrefwyr yn aelodau’r Antur- mae hyn yn cynrychioli tua 80% o dai y pentref. Anfonir tystysgrif i’r cyfranddalwyr yn cydnabod eu hymaelodaeth ac mae hon yn cael ei stampio a’i seilio yn swyddogol gan yr Antur. Nid mudiad cydweithredol y gweithwyr yw Antur Aelhaearn felly, ond yn hytrach mudiad cydweithredol cymunedol. Penderfyniad positif oedd hwn am ddau reswm. Yn gyntaf, roedd nod yr Antur yn ehangach na chreu gwaith ac yn ail oherwydd hyn, roedd hi’n bwysig i’r gymdeithas gyfan mewn pentref mor wledig a thenau ei phoblogaeth, gael llesio eu barn. Nid elusen chwaith mor Antur gan nad oedd y Comisiynwyr Elusennau yn ystyried mudiad a chreu gwaith yn brif nod iddo yn un elusengar.
Stoc Fenthyg
Yn wahanol i’r cyfranddaliadau, mae’r stoc fenthyg ar gael i unrhyw un, boed yn byw yn Llanaelhaearn neu beidio, ac yn wir, mae pobl, nid yn unig ledled Cymru, ond hefyd ar hyd a lled Ewrop a’r Amerig wedi buddsoddi yn yr Antur. Telir llôg ar y stoc fenthyg os dymunir. Mae llawer iawn o bobl wedi dewis buddsoddi’n ddi-lôg, ac wrth gwrs roedd hyn yn gymorth mawr i’r Antur. Rhaid cofio nad oedd gan y buddsoddwyr hawl i bleidlesio o gwbl yng ngweithgarwch yr Antur. Roedd hyn yn bwysig i gymdeithas fechan fel Llanaelhaearn, oherwydd sicrheiwyd bod datblygiadau yr Antur yn aros yn nwylo’r pentrefwyr. Roedd y system o gynnig stoc fenthyg yn helpu’r Antur i gael arian anghenrheidiol ar y cychwyn, ac yn annog rhywun a oedd am helpu o’r tu allan i’r ardal wneud hynny yn y dull hwn heb danseilio’r rheolaeth leol.
Y "Senedd"
Dyma’r corff sy’n rheoli’r Antur ac mae iddo hyd at ddeuddeg o aelodau. Y Senedd sy’n gyfrifol am redeg yr Antur o fis i fis, yn yr un modd ag y rhedir cwmni gan fwrdd cyfarwyddwyr. Dewisir y Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinl Blynyddol. Gwnaed ymgais i dorri ar awyrgylch sych arferol ‘Cyfarfodydd Blynyddol’ drwy cael siaradwyr gwadd a chynnig paned o de, Cafwyd anerchiad er enghraifft gan y Tad Tomas O’Murchu o Oilean Cleire, a cafwyd pump o enethod lleol yn arddangos y dillad a wnaed yn Llanaelhaern. Erbyn Mehefin 1974 roedd tua £1,000 wedi ei fuddsoddi yn Antur Aelhaearn ac roedd y Senedd yn barod i ystyried beth a fyddai ei hanturiaeth gyntaf. Digwyddwyd gweld hysbyseb gan fachgen lleol, a oedd bryd hynny yn was sifil yn Aberystwyth, yn nodi ei fod eisiau ymsefydlu fel crochenydd mewn ardal Gymreig. Roedd ei deulu yn hanu o Nefyn ac, er iddo gael ei fagu yn Lerpwl, roedd yn awyddus i ddysgu Cymraeg, ac yn wir roedd wedi llwyddo i wneud hynny i raddau helaeth. Bu i’r Senedd gyfweld Steffan Rhys, ac er fod nifer o grochenyddion yn yr ardaloedd cyfagos penderfynwyd ei gyflogi ar raddfa fechan. Cael gweithdy addas oedd y prif broblem bryd hwnnw, yn ogystal â ceisio cael cartref i Steffan Rhys. Yng Nghorffennaf 1974 cafwyd caniatâd i ddefnyddio modurdy Bryn Meddyg (cartref Carl a Dorothi Clowes) fel crochendy dros dro. Erbyn canol yr Haf roedd hi’n amlwg fod Antur Aelhaearn yn cael cyhoeddusrwydd annisgwyl. Dechreuodd erthyglau amdani ymddangos ym mhapurau Llundain a Lloegr yn gyffredinol, yn ogystal â’r y papurau Cymreig. I fanteisio ar y diddordeb eang yma aethpwyd ati i gynnal arddangosfa lwyddiannus yn yr ysgol. Cafwyd hawl gan y Pwyllgor Addysg i ddefnyddio’r ysgol am pum wythnos yn ystod gwyliau’r Haf- a hynny yn ddi-dâl. Ymwelodd tua 2,000 o bobl a’r Arddangosfa lle y cafwyd esboniad o’r ymgyrch ers 1970 trwy arddangos toriadau papur newydd, llythyrau ac ati. Hefyd yno roedd cynnyrch cyntaf Antur Aelhaearn sef crochenwaith Steffan Rhys. Rhoddwyd y cyfle hefyd i bob crefft a wnaethpwyd yn lleol gael ei harddangos. Roedd un rhan o’r Arddangosfa wedi’i neilltuo oddi wrth y gweddill. Roedd hon yn ymwneud â’r ymweliad i Oilean Cleire, a chyda chymorth map, lluniau a chynnyrch yr ynys, amlinellwyd y ddolen gyswllt. Neilltuwyd cornel arall i amlen arbennig a oedd ar werth – amlen gyda cherdyn eglurhaol oddi mewn iddi ac arni stamp dileu gan Swyddfa’r Post i gofnodi’r ffaith mai Antur Aelhaearn oedd y Gymdeithas Gydweithredol Bentrefol gyntaf yng ngwledydd Prydain Yn ystod haf 1974 daeth cwmni ryngwladol enwog Knitmaster i gysylltiad â’r Antur, ar ôl gweld eitem ar y rhaglen newyddion News at Ten, a bu i un o gyfarwyddwyr y cwmni sef y Br Roly Groome ymweld â Llananelhaearn. Awgrymodd y byddai diwydiant gweu yn yr ardal yn llwyddiannus iawn a soniodd am ei lwyddiant mawr yn yr Alban, Iwerddon a Swydd Efrog. Daeth a pheiriannau ac enghreifftiau gydag ef er mwyn iddo allu profi ei bwynt. Wrth gofio am gymeriad yr ardal a’r cefndir lleol o wau gartref cymeradwyd y syniad gan y Senedd. Prynwyd dau beiriant a chafwyd dau arall yn rhodd. Ar y dechrau defnyddiwyd y peiriannau mewn cartrefi, yna symydwyd y gwaith i garafan fechan a brynwyd yn rhad ac a beintiwyd gan aelodau’r antur. Lleolwyd hon ar dir yr Anrur, gobeithwyd hyfforddi dau neu dri o bobl gyda’i gilydd ond ni fu hyn yn llwyddiant gan ei bod yn rhy oer yn y garafan. Ar y pryd roedd ansicrwydd ynglŷn â beth i’w gynhyrchu gan nad oedd steil arbennig na phatrwm wedi ei benodi. Lluniodd dwy ferch o’r ardal, Joy a Sylfia Williams, gardiau Nadolig erbyn Nadolig 1974 a gwerthwyd 10,000 Gwnaethwyd yr un peth yn 1976 a cyhoeddwyd calendr ym 1975. Yn ystod gaeaf 1975, mewn cydweithrediad â’r Cyngor Sir, dechreuodd Antur Aelhaearn ddosbarthiadau nos Dysgu Cymraeg. Parhaodd y cyrsiau am dair blynedd gyda’r nifer a oedd yn eu mynychu yn amrywio rhwng 8 a 10. Yn y Cyfarfod Blynyddol yn 1975 sefydlwyd Cyfeillion yr Antur i geisio hybu’r cydbwysedd cymdeithasol i’r datblygiadau. Prif nod y cyfeillion oedd cynnal Eisteddfod yn Llanaelhaearn a hynny am y tro cyntaf ers 1926, bron i hanner can mlynedd ynghynt. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau er mwyn sicrhau cronfa angenrheidiol, a chafwyd eisteddfod lwyddianus iawn yn yr hydref. Mae’r Eisteddfod yn dal i fynd yn ei blaen heddiw yn ei chartref newydd – Canolfan y Babell. Ym mis Awst derbyniodd Carl Clowes alwad ffôn gan ddiwydiannwr o Birmingham. Roedd wedi darllen am yr Antur yn y Birmingham Daily Post a theimlai y gallent fod o gymorth i’w gilydd. Yn ddiweddarach death y Br Hartheimer o Shaw Munster Cyf., Birmingham i Lanaelhaearn i weld Antur Aelhaearn ac i roi ei syniadau gerbron y Senedd. Dywedodd y byddai ef y gallu sicrhau gwaith i’r Antur yn y farchnad bathodynnau enamel petai adeilad a gweithwyr addas iddo yn lleol. Ymddangosai yn syniad da. Ei gwmni ef a fyddai’n gyfrifol am ddysgu’r dechneg a thalu’r cyflogau. Cafwyd sicrhad mai dim ond pobl leol a fyddai yn cael eu cyflogi ac y buasent yn gweithio ar yr un telerau a’r gweithwyr yn y brif ffatri. Cytunodd y Senedd ar hyn ac aethwyd ati i chwilio am adeilad addas i gynnal y gwaith. Rhyw ddau fis wedyn roedd yr ymdrech i gael adeilad addas yn dal i fynd ymlaen. Roedd teimlad fod cyfle da yn llithro trwy eu dwylo. Tua’r amser yma rhoddwyd ¾ erw o dir yn rhodd i’r Antur, roedd y tir yma yn ymyl y briffordd ynghanol y pentref. Felly, teimlai’r aelodau mae hwn oedd y cyfle i godi adeilad eu hunain ar y tir at bwrpas y gwaith. Er fod yr Adran Gynllunio wedi gwrthod caniatâd i un o cyn-berchnogion y tir adeiladu tai arno roedd yr Antur yn gobeithio y byddent yn cael caniatâd cynllunio oherwydd:-
- Cais ydoedd i gael canolfan gwaith, a olygai waith yn lleol. Yr oedd diweithdra a diboblogi yn uchel yn yr ardal.
- Roedd y cais am yn mynd o flaen Awdurdod newydd, sef Cyngor Dosbarth Dwyfor, a fyddai gobeithio gyda agwedd wahanol tuag at ddatblygiadau ô’r fath
- Y faith bod 160 o’r pentrefwyr. A gynrychiolai Anrur Aelhaearn, ytu ol i’r cais, gyda chefnogaeth y Cyngor Cymuned lleol.
Gwireddwyd gobeithion y pentrefwyr a rhoddwyd caniatâd cynllunio. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y safle yn fuan yn 1975. Yn sgil yr hawl cynllunio fodd bynnag fe ddaeth problemau. Cyhuddwyd y Cyngor o fod yn rhagfarnllyd wrth roi caniatâd cynllunio i Antur Aelhaearn i ddatblygu’r safle. Rhaid pwysleisio nad achwyn ar ran sawl a oedd wedi gwneud cais i godi tai cynt oedd hyn, ond gan ŵr busnes lleol, ac yntau newydd wrthod y cyfle am gynnig cyntaf i brynu’r tir. Pan wnaethpwyd cŵyn yn ffurfiol yn erbyn y Cyngor, death y mater i sylw’r Ombwdsman ac fe gafwyd Cyngor Dosbarth Dwyfor yn euog o ddangos ffafriaeth at Antur Aelhaearn. Rhaid cofio yma nad oedd unrhyw aelod o’r Antur yn cael unrhyw enillion o’r fenter. Yn syml, menter er lles y gymdeithas ydoedd. Adeiladwyd y ganolfan a symudodd Shaw Munster Cyf. i mewn iddi ddiwedd Awst 1975. Roedd gwaith i wyth o bobl a oedd yn fuan iawn wedi cynyddu i ddeg. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 20, Rhagfyr 1975 gan Dafydd Wigley, yr aelod Seneddol lleol, gyda Mr J. O. Roberts a’r Dr Eirwyn Ll. Evans yn annerch ar ran Cyngor Sir Gwynedd a Mr R. Edgar Jones, cadeirydd Cyngor Dwyfor, ar ran y Cyngor hwnnw. Yn arwain yr anthem genedlaethol roedd Seindorf Trefor. Adeiladwyd y ganolfan yn gyfangwbwl gan adeiladwyr lleol. Daeth y briciau o Drefor a defnyddiwyd gwenithfan lleol i roi wyneb ar ran o’r adeilad. Cafwyd bil am £11,000 am yr adeilad. Defnyddiwd buddsoddiadau’r Antur a rhoddion nifer fawr iawn o gefnogwyr i godi’r swm yma a sicrhawyd morgais o £6,000 gan awdurdod lleol ar gyfradd safonol o lôg. Ar y dechrau, ar gyfer Shaw Munster Cyf. yn unig yr oedd y ganolfan ond fel yr aeth y cynllun rhagddo, ychwanegwyd darn at yr adeilad gwreiddiol i’w ddefnyddio fel crochendy, adran wau, swyddfa a thoiledau. Wedi’r holl waith caled siom fawr fu i Carl Clowes dderbyn neges ffôn yn oriau man y bore. Roedd gweithiwr o’r becws lleol wedi gweld car wrth ymyl adeilad yr Antur ac wedi sylwi fod sloganau wedi eu peintio ar y ffenestri a’r waliau. Er i Carl Clowes ymweld â’r safle ni allai neb wneud dim tan y bore wedyn. Er i rif y car sef KBD 902F ddod i law ac i’r heddlu ddod o hyd i dun o baent a oedd yn gysylltiedig a’r difrod mewn iard yng nghefn tŷ yn yr ardal, ni fu erlyniad. Hefyd yn 1974 roedd cwmni rhyngwladol enwog Knitmaster wedi cysylltu â’r Antur. Roeddynt wedi gweld eitem ar y rhaglen o’r ardal fynd draw i’r ynys, gan aros yn nhai’r ynyswyr. Trefnwyd y daith ar gyfer Awst 1975, yn wir hon oedd y cyntaf o sawl antur gan i rai o drigolion Llanaelhaearn ymweld â Inis Mor yn1977, ac i ynys Barra (un o ynysoedd Heledd) yn 1979. Erbyn 1975 teimlai’r Senedd y dylai Steffan Rhys gael prentis er mwyn ehangu’r crochendy. Hysbysebwyd y swydd cyn gwyliau’r pasg ond ychydig o wythnosau yn ddiweddarach rhoddodd Steffan Rhys rybudd ei fod yn rhoi gorau i’w swydd, ac ymhen ychydig symudodd ef a’i deulu o’r pentref. Ar ôl cyfweld a’r ymgeiswyr penderfynnwyd cynnig y swydd i Sioned Huws, merch ifanc yn hanu o Wynedd ond yn gweithio yng Nghaerdydd ar y pryd. Yn ffodus iawn cynigiodd Pilling Pottery o swydd Caerhirfryn hyfforddi Sioned. Dywedodd COSIRA (Cyngor dros Ddiwydiannau Bychain mewn Ardaloedd Gwledig) fod yna gwrs da yng Ngholeg Technegol Gwynedd ym Mangor ond yn anffodus ar ôl cysylltu a’r Coleg, darganfyddwyd nad oedd cwrs ar grochenwaith yn cael ei gynnig yna, nac mewn sefydliad arall yng Ngogledd Cymru. Erbyn Awst 1975 roedd Shaw Munster Cyf. yn cyflogi deg o bobl ac roedd merch ifanc o’r ffatri yn Birmingham yn gyfrifol am hyfforddi. Yn anffodus roedd y pellter o Firmingham i Lanaelhaearn yn creu problemau i gyfarwyddwyr Shaw Munster Cyf ac ar ôl dim ond chwe mis yn y pentref, ymadawodd y cwmni. Roedd gan Antur Aelhaearn dros 700 o droedfeddi sgwar yn awr yn ddigynnnyrch. Erbyn diwedd y flwyddyn honno penderfynwyd creu patrwm Celtaidd i’r cynnyrch gwau. Roedd y patrymau newydd yn llwyddiant. Roedd y cynnyrch yn seiliedig ar beiriannau cartref o hyd a sylwyd fod yna botensial yma. Penderfynodd y Senedd gyflogi staff llawn amser mewn ystafell fechan yn y ganolfan. Hyfforddiant unwaith eto oedd y broblem, llwyddwyd i anfon Mrs Beti Huws i Lundain am hyfforddiant gyda chwmni Knitmater, yna fe fyddai hi, ynghŷd ag un arall, yn hyfforddi gweithwyr yr Antur yn wirfoddol. Y broblem nesaf oedd penderfynu beth i’w wneud gyda’r 700 o droedfeddi gwag. Ystyriwyd cael siop yn hen garafan yr Antur a gwnaed cais i’r perwyl yma ac yn ddiweddarch i ddefnyddio hen stabl Llechdara fel siop, ond gwrthodwyd y ceisiadau. Yna edrychwyd ar addasu rhan o adeilad yr Antur ond gwrthodwyd y cais yma oherwydd gwrthwynwbiad gan yr Adran Ffyrdd a honai fod y lle parcio yn anaddas. Yn 1975 roedd swyddogion o’r Gymuned Ewropeaidd wedi ymweld â’r Antur ac awgrymwyd y buasent yn cael cymorth ganddynt hwy o bosib. Ond er gwaethaf ymdrechion caled yr Aelod Seneddol lleol a Swyddog Datblygu Economaidd Gwynedd, ymhen dwy flynedd wedyn nid oedd ateb byth wedi ei gael. Er hyn, gwnaethwyd cais i gael cefnogaeth y Cynllun Creu Gwaith i ehangu ei gweithgarwch ac i benodi Rheolwr Busnes. O dan amodau’r Cynllun nid oedd gan ddiwydiant yr hawl i wneud elw, ond gan fod yr Antur wedi ei gofrestru fel Cymdeithas Gydweithredol Gyfeillgar, derbyniwyd y cais. Fe’i pasiwyd ym mis Rhagfyr 1976 ac Antur Aelhaearn oedd y diwydiant cyntaf yng ngwledydd Prydain i gael cymorth o dan y cynllun hwn. Roedd y nawdd a dderbyniwyd o dan y cynllun yma yn werth £35,000 i’r ardal a rhoddwyd gwaith i hyd at un ar bymtheg ar y dechrau. Ehangwyd yr adran grochenwaith i bump o weithwyr, ar adran wau i wyth a phenodwyd y Rheolwr hollol bwysig. Fe ymgeisiodd saith ar hugain am y swydd a phenodwyd Eleri Higgins, person gyda profiad yn y maes a dechreuodd ar ei gwaith ym mis Ebrill 1977. Yn 1978 cafodd Eleri faban a sylweddolodd yn fuan bod magu baban a gweithio fel rheolwr yr Antur yn ormod iddi, a bu iddi ymadael a’i swydd. Tua’r un adeg sylweddolwyd fod y gwaith o farchnata’r crochenwaith yn mynd yn fwy fwy anodd gan fod Antur Aelhaearn yn cystadlu a phobl hunan-gyflodedig a oedd yn fodlon cynhyrchu yn eu oriau eu hunain ac am brisiau isel. Penderfynodd Sioned Huws adael ei gwaith yn yr Antur ac ymfudo i Sir Fôn. Erbyn wythnosau olaf 1979 roedd camau eithaf anodd yn wynebu’r Antur. Roedd yr archebion wedi lleihau fel y dechreuodd yr economi ddirywio. Cafodd Carl Clowes swydd newydd yn1980 a symudodd o Lanaelhaearn i Sir Fôn i fyw. Bu rhywfaint o anghytuno ymysg y Senedd am bolisi ac ym mis Medi 1980 teimlai’r Cadeirydd ar y bryd na allai ddal ymlaen yn ei swydd. Ymddiswyddodd ynghŷd â’r swyddogion a etholwyd gydag ef yng Nghyfarfod Blynyddol y flwyddyn honno. Daeth William Arthur Evans yn Gadeirydd. Heddiw mae’r Antur yn dal i fynd, a William Arthur Evans yn dal yn y gadair ac mae’r Senedd yn dal i gyfarfod. Bellach nid oes gan yr Antur cynnyrch gwau na chrochenwaith ond mae’r Senedd yn rhentu’r adeilad i Gyngor Gwynedd at ddefnydd Hyfforddiant Gwynedd. Yno mae bechgyn a merched yn ei harddegau yn cael hyfforddiant mewn gwaith coed a metal. Rheolwr Hyfforddiant Gwynedd ydi Gwyn Hughes yn enedigol o Lanaelhaearn ac yn fab i drysorydd yr Antur ers llawer blwyddyn, Mrs Beti Huws â’i gwr Dewi Lloyd Huws.