
Yn ysgrifenedig ar y garreg: ALIORTVS ELMETIACO HICIACET.
Daeth hon i’r golwg yn 1865 mewn cae o’r enw Gardd y Sant (Erw Sant heddiw).Gellir ei gweld i mewn yn yr eglwys. Mae’n dyddio o’r bumed neu chweched ganrif. Ystyr y geiriau Lladin ydyw-
"yma y gorwedd Aliortus gwr o Elfed". Ar yr adeg honno teyrnas Brydeinig oedd Elmet rhywle (o gwmpas lle mae dinas Leeds heddiw ) yng ngorllewin Swydd Efrog yn wir roedd y gwr yma wedi cael siwrne faith. Felly mae tystiolaeth fod Cristnogaeth yn y cylch yma ers y bumed neu’r chweched ganrif.