Haf 2008
Gyda tristwch mawr daeth y newydd am farwolaeth ein Hesgob, Anthony. Er mae byr fu ei amser yma yn yr esgobaeth roedd wedi gwneud argraff ar bawb. Gelwid ef yn Esgob y Bobl ac roedd bob amser yn barod i wrando a chefnogi. Cydymdeimlwn a'i wraig, Caroline a'i blant.
Mae rhai o'r aelodau yn mynd a nwyddau i'w gwerthu o gwmpas ambell i sel cist car yn ystod misoedd yr haf i godi arian at Gronfa'r Fynwent. Byddent yn falch o dderbyn unrhyw beth tuag at y fenter yma.
Pererindod Esgobaethol
Bu'r pererindod ar dydd Sadwrn 21 Mehefin, er y tywydd gwlyb daeth tyrfa dda i Aberdaron i ymuno yn y gwasanaethau a'e hwyl. Yn anffodus ni allai'r Esgob fod yn bresennol gan ei fod unwaith eto yn Ysbyty Gwynedd.
Mae'r gwaith mawr o adnewyddu'r eglwys am ddechrau ar yr 29fed o Fedi. Er mwyn i bawb gael deall y prosiect cyffroes yma, mae cyfarfod wedi ei drefnnu am nos Iau 25ed o Fedi yn yr eglwys fe fudd y pensaer a'r adeiladwr yno i ateb cwestiynnau.