Site Network:

Newyddion

Ti a Fi
Bydd y grwp yn cyfarfod bob dydd Iau am 1:00 y.p. yn y Ganolfan. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Caren ar  0175....

         2009

Clwb Prynhawn

Mae’r clwb yn cyfarfod yn y ganolfan ar brynhawn dydd Mawrth am 1:30. Croeso i unrhyw un daro i mwen am sgwrs a phaned. Fe fydd rhai o’r aelodau yn gwau a gwnio a rhai erill yn dod a llyfrau i’w cyfnewid.

 

Trip i Machynlleth

Mae’r gangen leol o Ferched y Wawr wedi trefnnu trip i Fachynlleth i’r Ganolfan Yni Amgen ( C. A. T.), ar 11 Mai. Fe fydd y bws yn gadel y pentref am 10:00. Y gost fydd £10. Enwau i Lynda Cox  01758 750474 .

 

Clw.

 

 

Swyddfa'r Post

Trist iawn yw cofnodion fod y swyddfa yn cau ar 29 Ionawr. Mae ein haelod lleol Mr Dafydd Roberts mewn trafodaethau gyda'r Pst Brenhinol i geisio sicrhau galwad gan y fan bost symudol ond hyn yn hhyn ni wnaed unrhyw penderfyniad.

Bu Parti Nadolig i blant y pentref yn y Ganolfan a galwodd Sion Corn heibio gyda anrheg bach i bawb.

Cafwyd Bingo Nadolig llwyddianus yn y Ganolfan ddechrau fis Rhagfyr. Diolch i bawb am ei cefnogaeth tros y flwyddyn a fu.

Dymunir wellhad iechyd llwyr a buan i Mr John Rowlands, Cwm Ceilipo ac i Mr Robert Ellis, Penllechog. Mae'r ddau wedi bod yn wael yn ddiweddar.

Marwolaeth

Estynnwn ein cydymdeimlad dwys a theulu Mrs Meriona Llyfnwy Williams, 5, Ty'n y Ffridd gynt a fu farw ym Mhlas Gwyn, Pentrefelin. Bu Mrs Williams yn weithgar yn y pentref am lawer blwyddyn.

Merched y Wawr

Bu'r gangen yn dathlu'r Nadolig gyda chino blasus yn Glan Dwyfach. Dechreuwyd y tymor newydd ar yr ail nos Wener gyda dysgu ail-gylchu gyda Mrs Bea Kelsall, sydd wedi dysgu Cymraeg yn ardderchog.

Ysgol Llanaelhaearn

Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yr ysgol yn yr eglwys a gwnaeth y plant eu gwaith yn raenus iawn er bod y ffliw yn effeithio ar ambell un. Bu pawb yn amgueddfa Llanberis yn dathlu'r Nadolig yng nghwmni Mari Gwilym dydd Mercher cyn i'r ysgol gau. Aethom i ysgol Trefor i gael ein diddano gan Meinir Gwilym. Cafodd pawb ginio Nadolig bendigedig gan Anti Beryl a gwnaethpwyd elw o £600 yn ein noson goffi blynyddol. Diolch i bawb yn y pentref am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

Enillwyr pel fonws yr ysgol y mis diwethaf oedd:- Lesley Capon, Ken Roberts ddwywaith a John Sedgewick.

Sant Aelhaearn

Ar ol gwasanaethau ar thema'r Adfent dechreuodd y Nadolig ar fore Sul 21 Rhagfyr gyda gwasanaeth hyfryd y Cristingl. Paratoeyd y critinglau a rhoddwyd i bob plentyn gan Christine Jenkins a Kathryn Ellis. Cymerwyd rhan gan Rhiannon, Megan, Jim, Brodie, Elen, Llinos, Sian, Kathryn Ellis a Christine Jenkins.

Daeth tyrfa dda i wasanaeth Noswyl y Nadolig gyda'r Canon Peter James, Llithfaen yn cyd weinyddu hefo'r Canon Idris Thomos a Sianelen Pleming wrth yr organ. Cymerwyd rhan yn seremoni y Goleuni, y darlleniadau a'r gweddiau gan Lynda Cox, Sioned Enlli, Nel Jones, Christine Jenkins, Kathryn Ellis, Mike Atkin a Bethan Jones Parry. Cafwyd carol gan Dafydd Roberts a'i chwaer Ann Williams. Roedd yr eglwys wedi ei haddurno yn brydferth gogyfer a'r Wyl gan Rose Williams a June Baglin. Dymunir gwellhad buan i Mr Emrys Williams a drawyd yn wael ar ei wyliau dramor yn ystod y Nadolig.

Mae'r gwaith allanol ar yr eglwys yn mynd yn ei flaen yn dda, ac mae llawer un wedi dweud bod yr eglwys nawr yn edrych ar ei gorau. Gobeithir i'r gwaith tu fewn ddechrau yn fuan.

Canolfan y Babell

Mae Pwyllgor y Ganolfan yn chwilio am ofalwr, i ddecgrau ar y gwaith 1 Chwefror.Mwy o fanylion ar gael gan Lynda Cox

750474

Webb Ivory/Diolch i bawb am archebu nwyddau Nadolig y llynedd, fe wnaed elw o £200 tuag at costau rhedeg y ganolfan. Fe fydd llyfr Webb Ivory gyda nwyddau Nadolig eleni ar gael yn yr wythnosau nesaf.

 

Dosbarthiadau

Fe fydd dosbarth cyfrifadur/ffotograddiaeth digidol yn dechrau yn y ganolfan 9/9/08 rhwng 6:30 a 9:00.

Fe fydd dosbarth clustogwaith yn dechrau yn y ganolfan 22/9/08 rhwng 10:00 a 1:00.

Merched y Wawr

Mae'r tymor newydd ar ddechrau, am y mis yma yn unig mae'r gangen yn cyfarfod nos Fercher 10/9/08 yn y ganolfan am 7:00. Croeso i aelodau newydd.

Ysgol Llanaelhaearn

Ar Hydref 5 daeth yr amser i blant yr ysgol ffarwelio â Anti Gwenda (Mrs Gwenda Williams), a fu yn gofalu amdanynt ar amser cinio am ddeuddeg mlynedd. Canwyd cân wedi ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr achlysur a chyflwynwyd iddi anrheg, cerdyn a thusw o flodau gan y tri disgybl hynaf sef Liam, Daniel a Jordan. Diolchodd cadeirydd y Llywodraethwyr, Mrs Beti Huws i Mrs Williams am ei gwasanaeth gofalus ar hyd y blynyddoedd a’i hymroddiad er lles y blant. Dymunwyd yn dda iddi hefyd ar ddathlu penblwydd arbennig ac ar ei hymddeoliad. Bu plant hynaf yr ysgol yn brysur yn gwneud lluniau i gydfynd â stori Rhys a Meinir er mwyn ei rhoi ar safle BBC ar y wê. Cafwyd hefyd brynhawn difyr yng nghwmni Michael Harvey y storiwr yn gwrando ac yn creu storiau. Un o uchafbwyntiau y mis oedd cydweithio ag Ysgol Abererch mewn gweithdy dawns yn Ysgol Glan y Môr yng nghwmni Maria Hayes a Paul Williams. Gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei arddangos maes o law yng Nghanolfan Hamdden Pwllheli. Ar ymweliad ag Amgueddfa Bangor mae’r plant hynaf wedi cydweithio gyda Karen Owen i greu cerdd ar y thema caethwasiaeth. Casglwyd £30 ar gyfer `Hadau i Affrica`. Mae’r ysgol wedi efeillio ag ysgol yng Nghenia. Cafodd y plant hynaf sgwrs ar ddefnyddio beiciau yn ddiogel ac edrych ar ôl eu beiciau. Bu Elin Daly yng nghyfarfod cyntaf Sgwad Sgwennu Gwynedd. Llongyfyrchiadau mawr iddi hi.

Merched y Wawr

Bu’r marched ar wibdaith yn ddiweddar i Felin Uchaf yn Llyn a cafwyd swper gwerth chweil yn Aberdaron I ddilyn. Diocl i Ifan am fod yn yrrwr bws mor hwyliog. Fe fydd y gangen yn dechrau cyfarfod ar y dydd Gwener cyntaf ym mis Medi am 7:00 yn y Ganolfan. Croeso i aelodau newydd.

Cronfa Mynwent St Aelhaearn

Cafwyd ymateb dda i’r apêl am roddion tuag at cynnal a chadw’r fynwent. Mae warden yr eglwys, Mrs Rose Williams wedi casglu £240 gan deulu a ffrindiau. Diolchir iddi am ei gwaith ac i’r rhai a gyfranodd. Gellir cyfrannu trwy law Mrs Edwina Hughes, 11 Sea View, Trefor neu Mrs Rose Williams, Maes Môr, Pwllheli. Mae llawer wedi son am y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i dacluso’r fynwent a diolchir i Andrew Atkin ac Arwel Jones am eu gwaith.

Chwarae Têg

Bydd bore o weithgareddau hwyliog yn y Ganolfan, Trefor ar ddydd Sadwrn, Mehefin 30 i bobl ifanc 11-18 oed yng gnhwmni Dafydd Iwan a Mei Mac. Byddant yn trafod `Pwy ydym ni?`. Yn y prynhawn, bydd taith gerdded i ben Tre Ceiri gydag Alun Williams, arweinydd mynydda. Bydd cyfle i fwynhau picnic Masnach Dêg yno hefyd. Enwau cyn gynteg ag sy’n bosib i Llinos,  01286 660118 . Croese i bobl ifanc o Lanaelhaearn.

St Aelhaearn

Bellach mae’r manylion am y noson goffi wedi ei dosbarthu. Fe fydd hon ar nos Iau 14 o fehefin qm 6:30 yn y ganolfan. Gellir rhoi gwobrau at y Tombola i Lynda Cox neu Valerie Massey ac unrhyw cyfraniadau eraill yn nwyddau neu arian i Joan Jones.

Marwolaeth: Dylan Morus Roberts

Syfrdanwyd a brawychwyd pentref ac ardal Llanaelhaearn ddydd Llun , Fai 7 pan fu farw Dylan yn dawel ond yn hollol ddirybudd yn ei gartref yn lanc ifanc deunaw oed.

Mab annwyl i Ken a Gwenllian Roberts, 1 Cae Llyn, Llanaelhaearn oedd Dylan a brawd hoff i Glesni, Llinos a Carwyn, ac wyr i Mr a Mrs Griffiths, Mynydd Nefyn, a bydd bwlch enfawr ar ei ol ar yr aelwyd, lle yr oedd yn aelod o deulu clos a hapus. Trwy gydol ei oes fer, bu yn ddisgibyl yn ysgol gynradd y pentref ac yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ac wedyn am ychydig nes i epilepsy ei wneud yn rhy annodd iddo ddal ati. Roedd yn gwrtais, cyfeillgar a phoblogaidd ac ni fu erioed yn creu helynt yn y pentref. Un o’i ddiddordebau pennaf, roedd chwarae pŵl, ac yn wir fe roedd Dylan yn aelod brwd o dim pŵl y Reifals, lle y dewiswyd i fod yn aelod gorau’r flwyddyn am eleni, a derbyniwyd cwpan arian am ei orchest. Roedd yn mwynhau pêldroed ac yn dilyn clwb peldroed Lerpwl. Mwynha yn fawr gwrando ar gerddoriaeth.

Ar ddydd Sadwrn 12 Mai gwelwyd eglwys hynafol St Aelhaearn yn orlawn o deulu,ffrindiau a chymdogion o Lanaelhaearn ar ardaleodd cyfagos wedi dod i dalu’r gymwynas olaf iddo. Yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth oedd y Canon Idris Thomos ac ewythr Dylan y Parch. Geraint Roberts ac fe fu i ewythr arall sef Mr Evie Roberts cymeryd rhan hefyd. Yr organyddes oedd Mrs Sianelen Pleming. Ar ddiwedd y gwasanaeth chwrewyd darn o gerddoriaeth fodern a oedd Dylan yn ei hoffi yn fawr. Darllenwyd llythyr byr a theimladwy dros ben i Dylan gan Glesni, Llinos a Carwyn, i ffarwelio a’u brawd – dros dro. Yn cludo’r elor o’r ty roedd cefnder a pump o’i ffrindiau Trystan, Robin, Huw, Martin, Gareth a Terry. Ac I’r fynwent, ewyrthod a chefndryd sef:- David Roberts, Richard Williams, Eurwyn Griffiths, Dewi Roberts, Berwyn a Gavin.

Trefnwyd yr angladd gam Mr I. M. Hughes Garej Ceiri. Estynwn ein cydymdeimlad dwysaf i Ken, Gwenllians, Glesni, Llions Carwyn, Nain a Taid Dylan a’r teulu oll yn eu profedigaeth a’u tristwch mawr o golli Dylan.

Tudalen Dylan ar Bebo

Marwolaeth: Mrs Nancy Jones

Dydd Sadwrn 29 fed Ebrill bu angladd y diweddar Mrs Nancy Jones, Crossing, Ffordd Abererch, Pwllheli yn eglwys St Aelhaearn. Fu farw Mrs Jones yn dawel ym Mryn Beryl ar 8 Ebrill yn 72. Merch oedd y diweddar Alun ac Annie Roberts, Bryn Iddon. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu’r gymwynas olaf iddi, arwydd yn wir ô’i phoblogrwydd nid yn unig ym Mhwllheli ond yn yr ardaloedd cyfagos hefyd.

Yn arwain y gwasanaeth roedd y Canon Idris Thomos gyda chymorth gan y Parch. John Gareth Parry, Penmaenmawr( Pwllheli gynt a ffrind teuluol. Yr organydd oedd Mrs Sianelen Pleming. Talwyd teyrnged i Nancy gan Canon Idris Thomos ac aelodau ô’r teulu yn gynwys ei gweddw sef Evan John. Cydymdeimlwyd gyda’r teulu oll yn ystod y gwasanaeth.

Diolchwyd i Mr a Mrs Emrys Williams am eu gwaith yn yr eglwys yn ystod y gwasanaeth. Fe’i rhoddwyd i orffwys yn y fynwent newydd. Yr ymgymerwr oedd Mr Ifan Hughes, Ceiri Garej, Llanaelhaearn.

Merched y Wawr

Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill o Ferched y Wawr nos Wener, 13 Ebrill yn y Ganolfan a mwynhawyd orig ddifyr ac addysgiadol yn gwylio Rose Williams a June Baglin yn gosod blodau. Llywyddwyd y cyfarfod gan Valerie Massey, a diolchodd î’r ddwy ar ran y gangen. Rhoddwyd y te gan Sally Evans a Gillian Barrett.

Capel y Babell

Cynhelir oedfa yng Nghanolfan y Babell ar Sul olaf y mis, sef 29 Ebrill am 2:00 ô’r gloch y prynhawn. Y pregethwr fydd Mr Evie Roberts. Croeso cynnes i bawb.

Cystadleuaeth Pentref y Flwyddyn 2007

Mae'r pentref unwaith eto eleni am geisio yn y gystadlaeath yma. Y flwyddyn diewthaf daeth Llanaelhaearn yn yr 8 cyntaf drwy gymru gyfan.

Croesfan

Mae’r pentref unwaith eto am geisio am groesfan, er mwyn i bawb groesi y A499 yn saf. Mae’r gwaith o adnewyddu y briffordd brysur yma eisioes wedi dechrau, ac mae llwer un yn poeni am gyflymdra trafnidiaeth wedi ei gorffen. Ers llawer dydd bellach mae cynydd wedi bod mewn y nifer y cerbydau yn ei defnyddio, yn enwdig rhwng y Pasg a’r Diolchgarwch. Os ydych am gefnogi ein ymgyrch yna ysgrifennwch at ein haelod lleol ar Gyngor Gwynedd. William Arthur Evans, Clegyr, Llanaelhaern, Caernarfon. Ychwanegwyd 10 Ebrill 2007

Adeiladu ar dir Bryn Hyfryd

Bellach mae’r gwaith o adeiladu pump ty forddiadwy ar dir Bryn Hyfryd wedi ei ddechrau. Da oedd clywed fod pedwar o’r tai wedi eu gwerthu. Mwy o plant i’r ysgol yw’r gobaith. Ychwanegwyd 28 Mawrth 2007

Merched y Wawr

Aeth y gangen i ymuno a changen Pencaenewydd yn Glasfryn i ddathlu Gwyl Dewi. Mwynhawyd pryd o fwyd a sgwrsio cyn mynd ati i chwarae bowlio deg, a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny.

Ffarwelio

Dymunwn bob hapusrwydd yn eu cartref newydd yn Edern i Rhys a Glenys Williams, Glasfryn ac Ellis a Noa, eu plant. Bydd chwith ar eu holau yn y Llan. Rhoddwn groeso hefyd i Mr a Mrs Griffith sydd wedi symud i mewn i Glasfryn erbyn hyn

Eisteddfod Aelhaearn

Gwnaed apel ym mhwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn am gefnogaeth arianol i’r eisteddfod, sydd yn ddibynnol ar roddion i’w chynnal. Gwnaed apel arbennig am addewid o Gadair (neu fodel o gadair) i’r eisteddfod sydd i’w chynnal Tachwedd 23 yng Nghanolfan y Babell.

Ysgol

Llongyfyrchiadau i Mrs Sianelen Pleming, staff a phlant yr ysgol ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Cylch Llyn. Mwynhawyd prynhawn difyr yng Nghanolfan y Babell ar ddydd Gwyl Dewi yn gwrando ar blant yr ysgol yn adrodd, canu a chwarae offerynnau yr oeddynt wedi bod yn eu dysgu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Cafwyd paned a chacennau blasushefyd wedi eu paratoi gan rieni y plant. Diolch i Mrs Sianelen Pleming a’r staff am eu holl waith called.

Llongyfyrchiadau

I Llinos Pritchard Llechdara Uchaf am ei llwyddiant hithau yn Eisteddfod Cylch yr Urdd, a’n dymuniadau gorau iddi yn ye Eisteddfod Sir. I Caren a Trystan Humphries, Cysgod y Bryn ar enedigaeth ei merch Cari yn ddiweddar

Cyfarchion

Anfonwn ein cofion at Mrs Pheobe Roberts, Bryn Neuadd a dymuno gwellhad buan iddi ar ol damwain yn ddiweddar. Hefyd at Mrs Winnie Hughes Glandwr , gobeithio y bydd yn ol adref wedi gwella yn fuan. Ac i Mrs Jean Jones Glanrhyd, gobeithio ei bod yn teimlo yn well ar ol spel yn yr ysbyty yn ddiweddar.