Yn gynnar ym 1970 derbyniodd rheolwyr ysgol gynradd Llanaelhaearn lythyr gan Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, a awgrymai y byddai’r ysgol yn cau yn y dyfodol agos. Ym mis Medi roedd cyfarfod cyntaf o’r Gymdeithas Rieni. Roeddd yr ysgol tan ei sang gyda rheithor y plwyf y Parchedig William Roberts yn y gadair. Cafwyd penderiad unfrydol, rhaid oedd ymladd i gadw’r ysgol yn agored.
Trefnwyd deiseb yn gofyn i’r Pwyllgor Addysg ail feddwl, fe’i harwyddwyd gang an bron pawb yn yr ardal. Daeth y gorchymyn cau ffurfiol ym Mawrth 1972, roedd gan y pentrefwyr chwech wythnos i wrthwynebu yn ffurfiol. Daeth cefnogaeth i’r ymgyrch o lawer man yn cynnwys y diweddar Arglwydd Goronwy Roberts.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a chyn feddyg y pentref Donald Kiff. Dyma ran o lythyr a anfonodd at y Pwyllgor Addysg "The school has served generations of children, moulded them and sent many on to academic and business heights."
Ym mis Gorffenaf 1972 trefnwyd rali fawr ar Faes Caernarfon i bwsleisio’r angen am barhad addysdgu yn y Gymru wledig. Ar ddydd Sadwrn braf, gyda’r plant yn eu crysau T ysgol Llanaelhaearn a Seindorf Trefor yn arwain, gorymdeithiodd tyrfa fawr drwy strydoedd Caernarfon. Ond nid protest oedd, ond gorymdaith i ddathlu a llawenhau cans ar y dydd Iau blaenorol fe fu i’r Pwyllgor Addysg benderfynnu gadw’r ysgol yn agored.